Ew! Ma hi’n braf, tywydd ardderchog i agor adeilad newydd Ogwen, a cyfle ardderchog i ymweld i ddarganfod beth yw’r delweddau a welir uchod sydd o fewn yr adeilad newydd.
Bydd yr agoriad swyddogol yn digwydd yfory, ddydd Iau y 18ed o Orffennaf. Bydd y gweinidog, John Griffiths, yn agor yr adeilad yn y bore, a bydd digwyddiadau i’r gymuned drwy’r prynhawn.
Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys taith enwau lleoedd a’u cyswllt diwyllianol gan y Prifardd Ieuan Wyn am 1pm. Bydd y cerddor athrylithgar, Lleuwen Steffan, yn canu ar lannau Llyn Idwal am 3pm, ac yna eto ger yr adeilad newydd am 4pm. Bydd teithiau cerdded gan arweinwyr mynydd cymhwysiedig ar gael fel bo’r gofyn drwy’r prynhawn. Os hoffech le ar y bws a fu’n cychwyn o Fethesda am 12.45, cysylltwch a Guto Roberts ar 01248603003 cyn 4pm heddiw.
Gobeithio gwelwn ni chi fory! 🙂
Well! What lovely weather it is, ideal for the official opening of the new Ogwen building, and ideal for visiting the new building to discover what the images are about.
The official opening of Ogwen will be happening tomorrow, Thursday the 18th of July, with John Griffiths, the minister, opening the building in the morning with the community based activities in the afternoon.
These activities include a walk at 1pm with the bard Ieuan Wyn at who will discuss the origin of place names and their place within our heritage. The talented musician, Lleuwen Steffan will be performing on the shores of Llyn Idwal at 3pm, then again at the new building at 4pm. On demand walks with qualified mountain leaders will be available throughout the day. If you would like to book a place on the bus that has been arranged to come up from Bethesda at 12.45 get in touch with Guto Roberts on 01248603003 before 4pm today.
Hope to see you tomorrow! 🙂