KYFFIN WILLIAMS
Ganwyd Kyffin Williams ar Ynys Môn yn 1918 a daeth yn un o artistiaid mwyaf llwyddiannus Cymru, yn enwog am ei baentiadau o dirwedd Cymru a’i phobl. Yn dilyn addysg ym Mae Trearddur ac Amwythig, a chyfnod fel asiant tir ym Mhwllheli, ymunodd yn ddiweddarach â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, lle nad oedd dyfodol iddo oherwydd afiechyd.
Awgrymwyd iddo y dylai ddod yn artist, ac yn 1940 cofrestrodd yn Ysgol Gelf Slade. Tra’n fyfyriwr, nododd Kyffin mai ei ddarlun olew cyntaf erioed oedd ‘golwg o Gwm Idwal wedi’i baentio o gof’. Cipiodd yr arlunydd Geoff Squire hyn mewn darlun: ‘Kyffin Williams yn paentio ei olew gyntaf’, ac mae’n bosib gweld y darlun hwn, gan Geoff Squire, yng Nghasgliad Oriel Môn.
Roedd gan Kyffin Williams wybodaeth fanwl am dirwedd garw Eryri a’i hinsawdd, fel sy’n amlwg yn llawer o’i waith. Arhosodd ei edmygedd o bobl a weithiai’r tir gydag ef gydol ei oes.
Ar ôl gadael y Slade yn 1944, parhaodd Kyffin yn Llundain, gan sicrhau swydd ddysgu yn Ysgol Highgate. Er iddo symud o gefn gwlad Gogledd Cymru, parhaodd ei waith i ddal ysbryd y dirwedd a’i phobl. Byddai’n aml yn dychwelyd adref, gan lenwi llyfrau braslunio gyda darluniau a oeddyn caniatáu iddo greu paentiadau olew yn ei stiwdio yn Llundain. Wedi ymddeol o ddysgu yn 1973, dychwelodd Kyffin i Ynys Môn lle sefydlodd stiwdio ym Mhwllfanogl ar lan Afon Menai, lle gallai edrych dros ei Eryri annwyl. Bu’n gweithio’n ddiflino, gan dderbyn yr OBE am ei wasanaethau i’r celfyddydau yn 1982, a chael ei enwi’n farchog ym 1999. Bu farw yn 2006 yn 88 oed.
Paentwyd y llun uchod gan Kyffin Williams tua 1983. Llun o’r enw ‘Ffermwyr o Dan Y Grib’ (Olew ar ganfas), yw hwn ac mae’n dangos ffermwyr yn dychwelyd o’u gwaith o dan y Twll Du yng Nghwm Idwal.
ROB PIERCY
Mae’r arlunydd Rob Piercy o Borthmadog yn esbonio beth sy’n gwneud Cwm Idwal yn arbennig iddo ef:
Daeth fy nghyswllt cyntaf gyda Chwm Idwal rhwng canol a diwedd
y mil naw chwedegau. Yr atyniad oedd chwedlau am graig pum can troedfedd o’r enw Craig Idwal. Doedd dim diddordeb gen i bryd hynny mewn paentio na dim byd arall mewn gwirionedd. Roeddwn wedi llwyr ymgolli mewn dringo creigiau.Llawer o flynyddoedd yn ddiweddarach roeddwn yn cael fy nhynnu at Gwm Idwal eto, ond y tro yma fel arlunydd mynydd gan ddilyn llwybrau arlunwyr tirwedd Prydeinig nodedig a ddechreuodd ymweld â’r Cwm gafaelgar hwn o ganol y 19eg ganrif. Roedd yr arlunwyr hyn yn ymweld â Chwm Idwal er mwyn darganfod golygfeydd aruchel, rhywbeth a ddaeth yn boblogaidd yn ystod cyfnod Rhamantaidd y 19eg ganrif.
Mewn celf, mae’n her i ddal ac i ddelweddu arucheliaeth y byd o’n cwmpas. Mae geiriau sy’n gysylltiedig gydag Arucheliaeth yn cynnwys arswyd, tywyllwch, tristwch, bygythiol, enfawr a du. Mae’r elfennauhyn i’w gweld yn aml yng Nghwm Idwal. Nid yw fy narluniau tirwedd o foynyddoedd Cymru yn glynu’n bendant at y dull yma o baentio, ond er mwyn dal drama’r mynyddoedd hyn yn effeithiol, mae rhaid cynnwys elfen o ehangder a bygythiad.
Bydd arlunwyr tirlun yn siarad yn drwyadl am bwysigrwydd golau, ond heb y tywyllwch, ni fydd y golau yn effeithiol. Wrth edrych i mewn i Gwm Idwal, rydych yn wynebu’r De Orllewin sy’n golygu eich bod yn edrych i mewn i’r golau, felly pan wyf yn ymlwybro yn ôl i’r car ar ddiwedd diwrnod hir, dwi’n edrych yn ôl am y tro olaf tuag at Y Twll Du, ac os yr wyf yn lwcus mi gaf i’r profiad o weld ysgolion haul yn torri drwy’r cymylau isel, gan oleuo clogwyni uchaf Glyder Fawr, neu’r Llyn islaw, gan adael gweddill yr olygfa yn y tywyllwch.
LISA JÊN – 9BACH
Cipiodd 9bach y wobr am yr albwm orau yng ngwobrau ‘Cerddoriaeth Werin BBC Radio 2’ yn 2015. Mae Lisa, sy’n ysgrifennu caneuon y grŵp ac sy’n brif leisydd, wedi’i magu yn Gerlan ac wedi bod yn crwydro’r mynyddoedd hyn ers blynyddoedd. Isod mae Lisa yn esbonio sut mae’r ardal arbennig hon yn ei hysbrydoli:
‘Daw egin fy syniadau wrth gerdded yr hen lwybrau, neu nofio yn y nentydd. Mae fy syniadau a’ nghreadigrwydd yn llifo drwy’r afonydd glân gloyw; Afon Ogwen, Afon Caseg, Llyn Idwal. Mae’r caneuon yn mynd a chdi’n ôl i’r tirlun yma, ac yn ail-danio’r teimladau hynny ti’n cael wrth drochi dy hun yn dy gynefin. Dwi wedi bod yn anadlu’r aer yma ers erioed, fedrai’m denig- dwi ddim isio chwaith!’
‘Llyn Du’ gan 9bach – wedi eu hysbrydoli gan yr ardal ogwmpas cwm Idwal a nofel Caradog Prichard – ‘Un nos Oleu leuad’.
Y PRIFARDD IEUAN WYN
Mae rhyw dynfa yn y cwm i mi er pan oeddwn yn hogyn. Dyma ddau atgof sy’n rhoi dau ddarlun cwbl wahanol o’r cwm:
Sefyll yng ngheg y cwm wrth ymyl y Parch. Griffith Parry, ein gweinidog, ar hwyrnos lonydd yn yr haf. Yntau’n ’sgota tair pluen efo genwair greenheart ddeg troedfedd, a hanner dwsin o frithyll bras yn y crwth. Dim i’w glywed yn y llwydwyll ond llepian ysgafn y dŵr ar gerrig y lân a chlician ysbeidiol y rîl. Yna, a ninnau ar fin troi am adref, sŵn cipial llwynog o greigiau Clogwyn Tarw y tu ôl inni, a’r cyfarthiad main yn glir dros y cwm fel petai’n datgan ei hawl i’w deyrnas.
Sefyll yng ngheg y cwm yng nghanol storm – a hynny’n fwriadol er mwyn cael y profiad o deimlo’r terfysg – un o ddramâu natur. Y cwm fel pair, yn ferw gwyllt – yn llawn cymylau isel, a’r gwynt nerthol yn eu troelli a gyrru’r glaw trwm i bob cyfeiriad. Ac o dan y cymylau, wyneb y llyn yn gythryblus, a’r gwynt yn sgyrlio – yn cipio a lluchio brig y tonnau. Y cwbl yn llawn symud a sŵn. Pair, yn wir. Crochan y diafol. Does ryfedd i rywun alw’r Twll Du yn Gegin Gythraul.