Mae’r creigiau’n agored i’r elfennau mewn amryw o lefydd, yn enwedig ar y llethrau a’r copaon uchaf.
Fodd bynnag, ar y tiroedd tu hwnt i’r copaon, mae’r rhan fwyaf o greigiau yn yr ardal wedi eu gorchuddio gan haenau o gerrig, dyddodion rhewlifol, pridd a llifwaddod (alluvium). Gwelir tystiolaeth amlwg o rewi-dadmer – sgri, cludeiriau a thyrrau (tors – darnau â chraig mwy gwrthiannol na chafodd mo’u hindreulio i’r fath raddau â’r gweddill).
Mae yna wahaniaethau sy’n adlewyrchu natur y creigiau, e.e.
a) Mae tywodfaen a chreigiau igneaidd a folcanig yn fwy gwrthiannol, gyda bregion ymhellach o’i gilydd. Torrodd y rhain yn ddarnau mwy gan ffurfio tyrrau a chludeiriau.
b) Ble mae llinellau hollti’n agos, e.e. rhwng cerrig llaid (mudstones) a cherrig silt (siltstones), torrodd y creigiau’n ddarnau llai i greu llethrau sgri, e.e. Cwm Perfedd, Cwm Ceunant, Cwm Bual.
Mae dros 50 twr ar y Glyder Fawr, gydag uchder cyfartalog o 2-5 metr. Ar y Glyder Fach maent yn fwy fyth, e.e. Twr Castell y Gwynt, sydd dros 50 metr o uchder ar un ochr. Mae hindreulio biolegol yn digwydd ar hyd a lled yr ardal. Daw’r enghreifftiau amlycaf o’r llethrau uchaf, e.e. uwchben Cwm Idwal, gyda choed a llwyni unigol yn tyfu o holltau yn y creigiau mwyaf anghysbell.
Mae prosesau hindreulio cemegol yn cael effaith ar y creigiau yma hefyd, gydag elfennau yn adweithio gyda’r graig i’w gwneud yn llai gwydn, ac felly’n fwy tebygol o gael eu hindreulio. Nid oes calchfaen ogwmpas Cwm Idwal, felly ni cheir carbonadu (er bod hyn i’w weld ochr arall y Fenai, yng nghalchfaen Penmon).