Isod ceir rhestr o enwau yn yr ardal a phwt o esboniad gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
Afon Ogwen
Mae Afon Ogwen yn codi ar Garnedd Dafydd ac yn llifo i Lyn Ogwen, trwy Ddyffryn Ogwen ac i’r Fenai yn Aberogwen. Perthyn i ddosbarth o enwau afonydd sydd wedi’u henwi ar ôl creaduriaid. Mae’n debygol bod yr elfen gyntaf og yn golygu ‘cyflym, llym’ (mewn gwrthgyferbyniad â diog). Awgrym arall yw mai Gwyddeleg og ‘ieuanc’ a geir yma. Yr ail elfen yw Banw sef ‘porchell, mochyn bach’, ac mae’n disgrifio afon sy’n twrio drwy’r tir fel y byddai mochyn bach yn gwneud. Cymharer ag Afon Hwch yn Llanberis, Afon Beinw yn Nolwyddelan, ac Afon Twrch ar y Berwyn.
Tryfan
Mae dwy elfen i’r enw sef try-, elfen sy’n cryfhau (fel yn tryloyw ‘gloyw iawn’), a ban yn golygu ‘copa, pwynt, pig, corn’ (cymharer Bannau Brycheiniog sy’n cynnwys y ffurf luosog bannau). Felly ystyr Tryfan yw mynydd ag iddo gopa amlwg neu flaen main. Mae’n wahanol iawn i’r Glyder Fawr sy’n gruglwyth blêr yn ei ymyl.
Glyder Fawr a Glyder Fach
Ystyr cluder neu gludair yw ‘pentwr, cruglwyth o goed neu gerrig sydd wedi’u casglu ynghyd’. Mae’n bosibl bod yr enwau’n cyfeirio at y pentyrrau o gerrig rhydd ar gopa’r ddau fynydd, neu o bosibl, at y creigiau hynny sydd yn nannedd y gwynt ar ochr orllewinol copa’r Glyder Fach. Cymharer Dôl-y-gludair ger Dolgellau.
Cwm Clud
Cwm crog islaw’r Garn. Mae’n bosib bod y gair clud, ‘llwyth wedi ei gludo’, yn cyfeirio at y cerrig rhydd ar lethrau’r Ro Wen uwchlaw Llyn Clud. Posibilrwydd arall yw mai clyd yn golygu ‘cysgodol, diddos’ sydd yma, yn ddisgrifiad o natur y cwm. Mae Nant Clud (Afon Cwm Clud) yn llifo o Lyn Clud i Lyn Idwal.
Y Garn
Ystyr carn yw ‘tomen gerrig’. Mae’n digwydd yn gyffredin mewn enwau bryniau a mynyddoedd, er enghraifft Carn Fadrun, Llŷn, a’r Garn, Dolbenmaen.
Cwm Cneifion (neu Gwm Cneifiau)
Cwm crog islaw Bwlch y Ddwy Glyder. Ystyr cneifiau/ cneifion (lluosog yr enw cnaif) yw ‘cudynnau o wlân wedi’u cneifio’. Mae’n bosib bod yr enw’n cyfeirio at y cerrig gwynion amlwg ar y llethrau sy’n atgoffa rhywun o ddarnau o wlân neu gneifion newydd (gan mai allan ar y mynydd y byddai amaethwyr yn cneifio ers talwm).
Y Foel Goch
Mae’r Foel Goch wedi ei lleoli uwchlaw Nant Ffrancon. Fel ansoddair, ystyr moel yw ‘noeth’ (fel yn yr ymadrodd pen moel). Fel enw, mae’n air am fryn neu fynydd llwm (er enghraifft Moel Faban). Mae coch yn cyfeirio at liw’r graig.
Nant Ffrancon
Gall nant olygu ‘dyffryn’ neu ‘ffrwd’. Mae’n bosib bod ffranc (lluosog ffrancon) yn dynodi ‘milwr cyflogedig estron’ neu ei fod yn tarddu o’r Hen Saes. Franca sef ‘gwaywffon, picell’, ac mai disgrifiad ydyw o lifeiriant nerthol y nant, sy’n debyg i arf blaenllym, neu ynteu o greigiau pigog Braich Tŷ Du.
Castell y Gwynt
Mae Castell y Gwynt ar ochr orllewinol y Glyder Fach, yn nannedd y gwynt. Mae castell yn enw addas ar greigiau ysgithrog ar grib mynydd, fel tyrrau amddiffynfa uchel. (Mae Castell y Geifr wrth ymyl y Garn yn enghraifft arall).
Mae enwau lleoedd hefyd yn gallu datgelu mwy o’n hanes sy’n fwy diweddar.
Un o’r enghreifftiau hyn yw dylanwad Tywysogion Gwynedd, Llywelyn Fawr a’i fab, Dafydd ar y bobl leol. Credir fod y mynyddoedd Carnedd Dafydd a Llywelyn wedi eu henwi gyntaf mewn darn o ganu mawl gan un o feirdd yr uchelwyr, sef Rhys Goch Eryri. Mae’n rhaid bod tywysogion wedi bod yn uchel iawn eu parch i gadw eu henwau ar ddau o’r mynyddoedd uchaf yn yr ardal.