Darganfyddwch chwedlau Cwm Idwal ag Eryri
Ymunwch a ni ar daith hudolus drwy olygfa odidog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal. Wedi ei arwain gan storïwraig lleol o gwmni Anadlu, bydd y daith yn eich cyflwyno i fyd llawn chwedlau a hud a lledrith sy’n tarddu o’r ardal yma.
Be i ddisgwyl?
- Taith yn cychwyn 9:30 am.
- Taith yn cymryd 3 awr (4Km).
Byddwn yn cwrdd tu allan i ganolfan groeso Cwm Idwal (LL57 3LZ) cyn dechrau ein taith yn hamddenol tuag at y cwm. Wrth i ni gerdded o amgylch y warchodfa natur byddwn yn stopio i glywed chwedlau a hanesion sydd wedi cael eu rhannu dros yr oesoedd. Manteisiwch ar y cyfle arbennig i gysylltu gyda’r gorffennol a dysgu am y diwylliant a’r chwedlau sydd wedi eu plethu i mewn i’r tirwedd yma.
NODWCH: Mae’r daith ar gyfer oedolion a phlant dros 12 yn unig . Tydi’r daith ddim yn addas gyda chŵn. Mae’r daith am ddim.
Be ddod gyda chi?
Awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac sydd yn dal dŵr. Gofynnwn hefyd i chi wisgo esgidiau addas. Mae croeso i chi ddod a rhywbeth i fwyta a diod efo chi, neu gallwch brynu rhywbeth yn y caffi yn y ganolfan groeso.
Parcio
Mae’r maes parcio yn llenwi’n gynnar iawn, felly mae’n syniad da cyrraedd gyda digon o amser. Mae hefyd posib dal gwasanaeth bws (Traws Cymru T10) o gyfeiriad Bethesda ac o gyfeiriad Capel Curig.