Taith Meddylgarwch
March 30 @ 9:30 am - 1:00 pm
Ymunwch efo ni ar daith feddylgar yng Nghwm Idwal
Cymerwch seibiant o brysurdeb dydd i ddydd a dewch i fwynhau llonyddwch godidog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal. Ymunwch ag arweinydd taith meddylgarwch Davy Greenough, a swyddog Cwm Idwal ar gyfle arbennig i gysylltu gyda natur, canfod llonyddwch a rhoi hwb i’ch iechyd a llesiant.
Does dim angen gwybodaeth flaenorol o feddylgarwch.
Be i ddisgwyl?
- Taith yn cychwyn 9:30 am.
- Taith 3 awr (4Km).
Byddwn yn cwrdd tu allan i ganolfan groeso Cwm Idwal (LL57 3LZ) cyn dechrau ein taith yn hamddenol tuag at y cwm. Wrth i ni gerdded o amgylch y llyn, byddwn yn stopio i wneud ymarferion meddylgarwch wedi eu harwain gan Davy Greenough. Tua hanner ffordd ar hyd y daith fe fydd cyfle i gael seibiant, mwynhau’r golygfeydd a dysgu am natur yn y cwm. Byddem wedyn yn ymlwybro yn araf yn ôl i lawr am y ganolfan groeso.
NODWCH: Mae’r daith ar gyfer oedolion yn unig. Tydi’r daith ddim yn addas gyda cŵn. Mae’r daith am ddim.
Be ddod gyda chi?
Awgrymwn eich bod yn gwisgo dillad cynnes ac sydd yn dal dŵr. Gofynnwn hefyd i chi wisgo esgidiau addas. Mae croeso i chi ddod a rhywbeth i fwyta a diod efo chi, neu gallwch brynu rhywbeth yn y caffi yn y ganolfan groeso.
Parcio
Mae’r maes parcio yn llenwi’n gynnar iawn, felly mae’n syniad da cyrraedd gyda digon o amser. Mae hefyd posib dal gwasanaeth bws (Traws Cymru T10) o gyfeiriad Bethesda ac o gyfeiriad Capel Curig.