Ym 1954, dynodwyd Cwm Idwal fel y Warchodfa Natur Genedlaethol cyntaf yng Nghymru, a heddiw mae’n fan poblogaidd iawn i ystod eang o ymwelwyr.
Y prif reswm dros ddynodi Cwm Idwal fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol oedd y ddaeareg unigryw a geir yma. Yr ail reswm yw’r planhigion prin hynny sy’n gysylltiedig â’r ddaeareg hwnnw.
Mae’r warchodfa natur yn cael ei reoli drwy bartneriaeth rhwng Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwm Idwal yn ymestyn dros 398 hectar o dir mynyddig, llynnoedd, nentydd, mawndir a rhostir, ac yn cyfuno cymoedd Cwm Idwal, Cwm Cneifion a Chwm Clud. Mae copa Y Garn a chopa Y Glyder Fawr, rhai o fynyddoedd uchaf Cymru, yn rhan o’r warfchodfa natur.
