Yn ogystal a bod yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol, mae gan Llyn Idwal ddynodiad ei hun. Cafodd y Llyn ei ddynodi yn safle RAMSAR yn 1991. Mae’r dynodiad (wedi ei enwi ar ôl y ddinas yn Iran lle arwyddwyd y confensiwn) yn gytundeb rhyngwladol i warchod tir gwlyb.
Mae Llyn Idwal wedi ei gynnwys oherwydd ei natur oligotroffig a’r planhigion prin sy’n byw ynddo. Fe welwch hefyd nifer o anifeiliaid yn byw wrth y llyn, megis crёyr glas, pibydd y dorlan, brithyll gwyllt a’r gwyach fawr gopog.
Llyn Oligotroffig
Mae gan lynoedd Oligotroffig lefelau isel o faeth. Maen’t yn dueddol o gael dŵr croyw dros ben, gyda lefelau uchel o ocsigen a lefelau isel o nitrogen. Maen’t hefyd yn dueddol o gael dwysedd isel o blanhigion dŵr, gyda cherrig ar waelod y llyn yn hytrach na llaid a mwd.
Mae Llyn Idwal yn enghraifft ardderchog o lyn oligotroffig mynyddig. Mae ei bwysigrwydd yn deillo o’i fod yn cynnwys bron i holl rywogaethau o blanhigion sy’n nodweddiadol o ddyfroedd tebyg ym Mhrydain. Mae hefyd yn gartref i rai planhigion prin iawn, ystyrir rhai, fel y pelenllys gronynnog (Pilularia globulifera), dan fygythiad yn rhyngwladol.
Enw’r Llyn
Mae Llyn Idwal hefyd yn nodweddiadol gan ei fod yn rhoi ei enw i’r Cwm (a’r warchodfa natur). Yn ôl yr hanes roedd Idwal yn fab i dywysog o’r 12fed ganrif, sef Owain Gwynedd. Roedd Idwal yn fachgen golygus a chlyfar, ond doedd o ddim yn filwr da. I warchod ei fab, anfonodd Owain iddo i fyw efo’i ewythr, Nefydd, tra bu Owain i ffwrdd yn rhyfela.
Roedd Nefydd yn ddyn chwerw a llawn cenfigen fod ei fab ei hun, Dunawd, ddim hanner mor alluog ag Idwal. Un diwrnod aeth Nefydd ar ddau fachgen am dro wrth lan y llyn. O dan gyfarwyddyd ei dad, gwthiodd Dunawd ei gefnder i mewn i’r llyn gan wybod na all Idwal nofio. Wrth i Idwal foddi, sefodd Nefydd ar lan y llyn yn chwerthin ar ei nai. Ar ôl clywed am farwolaeth ei fab cafodd Nefydd ei erlid o’r deyrnas gan Owain, yna enwodd y llyn ar ô ei fab er cof amdano. Dywedir hyd heddiw na wneith unrhyw aderyn hedfan dros y llyn, mewn cof am farwolaeth drychinebus Idwal.