Mae Llyn Idwal yn safle pwysig ar gyfer natur ac wedi ei warchod yn rhyngwladol o dan gytundeb RAMSAR. Mae dyfroedd Llyn Idwal yn isel eu maeth (neu oligotroffig) sy’n caniatáu ecosystem sensitif, wedi ei addasu’n arbennig ar gyfer amodau o’r fath i ffynnu. Mae’r llyn yn cynnwys bron i holl rywogaethau planhigion y byddai’n nodweddiadol o lyn oligotroffig yn yr ucheldir, megis pelenllys gronynnog (Pilularia globulifera), mynawydlys (Pilularia globulifera) a bidoglys y dŵr (Lobelia dortmanna)
Er mwyn gwarchod ecosystem Llyn Idwal nid ydym yn caniatáu nofio yn y llyn. Mae adroddiadau diweddar o rywogaethau ymledol wedi eu darganfod mewn llynnoedd cyfagos (ffugalaw Nuttall Elodea nuttallii a ffugalaw crych Lagarosiphon major). Mae’r rhain yn gallu cael effaith niweidiol sylweddol ar ecosystem llyn. Gall rywogaethau o’r fath gael eu cyflwyno i’r llyn gan ddarnau bach o’r planhigyn sy’n sownd i ddillad nofio, lliain, blew ci a.y.b. Drwy beidio caniatáu nofio yn Llyn Idwal rydym yn lleihau’r risg o’r rhywogaethau yma gael eu cyflwyno i’r llyn.
Os hoffech wybod mwy, neu darganfod llynoedd lle gallwch nofio ynddynt mae croeso i chi holi’r ceidwad.
Diolch i chi am ein helpu i warchod Llyn Idwal.