Mae dylanwad pobl yn ardal Cwm Idwal heddiw yn eithaf amlwg yn y tirlun. Ond mae mwy i’w ddarganfod am hanes ein cyndeidiau o dan y wyneb.
Mae pobl wedi bod yn byw ym mynyddoedd Eryri ers miloedd o flynyddoedd, ac mae’r map isod yn dangos faint o safleoedd archeolegol sydd wedi gwasgaru dros Y Glyderau a Chwm IdwalWedi i’r rhew gilio yn dilyn oes y rhew, symudodd pobl i’r ardal. Mae’n debygol mai llwythi crwydrol oedd y mudwyr cyntaf i Eryri, gan symud o ardal i ardal i hela. Yn dilyn astudiaeth ddiweddar yng Nghwm Idwal, darganfuwyd darnau bach o gwarts, ger adfail o Hafoty, ger Clogwyn Y Tarw, ac ar y traeth sydd ar ben mwyaf gogleddol Llyn Idwal. Gan astudio’r darnau hyn o gwarts o dan lens microsgop, roedd yr archeolegwyr yn gallu gweld bod y darnau wedi eu hogi’n fwriadol.
Tystiolaeth bellach sydd gennym yng Nghwm Idwal fod pobl wedi ymgartrefu yma yw’r olion cytiau crwn. Mae lleoliadau rhai o’r cytiau hyn i’w gweld ar y map blaenorol o safleoedd archeoleg. Mae llinell amser yn dangos yr oesoedd gwahanol yn hanes pobl yng Nghwm Idwal.
Gallwn weld enghraifft o un safle cwt crwn ger Cwm Idwal heddiw – Mae gweddillion y cwt crwn ym mlaen y llun. Gallwn weld enghreifftiau o sut y byddai’r aneddiadau o’r oesoedd efydd a haearn wedi edrych, diolch i’r gwaith sydd wedi ei gwblhau ym Melin Llynnon, ar Ynys Mon, ac yng Nghastell Henllys yn Sir Benfro fel y gwelir isod.
Yn ystod oes yr haearn, roedd newidiadau mawr yn y ffordd yr oedd pobl yn amaethu. Yn hytrach na theithio o gwmpas efo’u hanifeiliaid, roedd pobl yn dechrau amgáu rhannau o dir a sefydlu caeau syml ar gyfer pori. Roedd unrhyw newid yn y defnydd tir yn effeithio ar y tirlun gan gynnwys dosbarthiad planhigion ac anifeiliaid.
Mae’r llun yma yn amlygu prinder coed yng Nghwm Idwal. Roedd digoedwigo yn yr ardal wedi cychwyn amser maith yn ôl. Mae ymarferion amaeth ers hynny wedi golygu nad coed yw’r prif blanhigion yn y tirlun heddiw.
Mae coed megis criafolen a chelyn yn tyfu yn y mannau mwyaf anghysbell yng Nghwm Idwal, er enghraifft ar glogwyni serth Y Twll Du.
Ac os yw’r arbrawf bugeilio anifeiliaid pori o Gwm Idwal yn parhau, efallai y gwelwn ni goed yn ail sefydlu yma yn y dyfodol.
Mae’r llun uchod yn dangos sut yr oedd pobl yn cynaeafu gwair tua’r 1950au, ond mae llawer mwy o fanylder ar draddodiadau amaethu yn hanes lled ddiweddar yr ardal i’w gael yn llyfr Margaret Roberts – ‘Oes o fyw ar y mynydd’
Gallwn ddysgu llawer am arferion ein cyndeidiau wrth astudio’r safleoedd archeolegol, ond mae’r enwau lleoedd sydd gennym yng Nghwm Idwal a Nant Ffrancon yn gallu dweud cyfrolau am ein hanes hefyd. Un elfen sy’n dod i’r amlwg yn y tirlun yw’r cyfeiriad at gadw gwartheg, neu ŷch. Yng Nghwm Idwal ei hun, mae Clogwyn y Tarw, ac ymhellach i lawr Nant Ffrancon mae Cwm Bual. Mae’r gair Bual yn cynnwys yr un elfen -‘Bu’, a’r gair bugail; mae’n cyfeirio at y ffaith mai ymdrin â gwartheg yr oedd bugail yn ei wneud yn wreiddiol yng Nghymru.